42. Gwelais i, Esra, ar Fynydd Seion dyrfa fawr na allwn ei rhifo, ac yr oeddent oll yn cydfoliannu'r Arglwydd ar gân.
43. Yn eu canol hwy yr oedd dyn ifanc o daldra mawr iawn, talach na phawb arall; yr oedd yn gosod coronau ar eu pennau hwy bob un, ac yr oedd ef yn dra dyrchafedig. Yr oeddwn i wedi fy nal gan ryfeddod,
44. ac yna gofynnais i'r angel, “Pwy yw'r rhain, f'arglwydd?”
45. Fe'm hatebodd fel hyn: “Dyma'r rhai sydd wedi rhoi heibio eu dillad marwol ac wedi gwisgo'r anfarwol, gan gyffesu enw Duw; yn awr coronir hwy, ac y maent yn derbyn palmwydd.”
46. Yna gofynnais i'r angel: “Pwy yw'r dyn ifanc acw sydd yn gosod coronau ar eu pennau a rhoi palmwydd yn eu dwylo?”
47. Fe'm hatebodd fel hyn: “Mab Duw yw ef, hwnnw y maent wedi ei gyffesu yn y byd hwn.” Dechreuais innau fawrygu'r rhai a safodd yn gadarn dros enw'r Arglwydd.
48. Yna dywedodd yr angel wrthyf: “Dos, a mynega i'm pobl natur a nifer y rhyfeddodau a welaist gan yr Arglwydd Dduw.”