4. Beth a allaf ei wneud er eich mwyn yn awr, a minnau'n weddw ac yn wrthodedig? Ewch, fy mhlant, a deisyfwch drugaredd gan yr Arglwydd.’
5. O'm rhan i, rwy'n galw arnat ti, dad, i ychwanegu dy dystiolaeth di at dystiolaeth mam y plant, eu bod wedi gwrthod cadw fy nghyfamod i.
6. Dwg felly derfysg arnynt hwy, ac anrhaith ar eu mam, rhag iddynt allu cenhedlu.
7. Gwasgarer hwy ymhlith y cenhedloedd, a dilëer eu henwau oddi ar y ddaear, am iddynt ddirmygu fy nghyfamod.
8. “Gwae di, Asyria, am roi lloches o'th fewn i'r rhai anghyfiawn! Y genedl ddrygionus, cofia di beth a wneuthum i Sodom a Gomorra.
9. Y mae eu tir yn gorwedd dan dywyrch pyglyd a thomennydd o ludw; felly y gwnaf â'r rhai a wrthododd wrando arnaf fi,” medd yr Arglwydd Hollalluog.
10. Dyma eiriau'r Arglwydd wrth Esra: “Cyhoedda wrth fy mhobl y rhoddaf iddynt hwy deyrnas Jerwsalem, yr oeddwn am ei rhoi i Israel.
11. Adfeddiannaf ogoniant Israel; a'r tragwyddol bebyll yr oeddwn wedi eu darparu iddi hi, fe'u rhoddaf i'm pobl fy hun.
12. Eiddynt hwy fydd pren y bywyd a'i arogl pêr, ac ni ddaw llafur a lludded arnynt.
13. Ceisiwch, ac fe gewch; gofynnwch am i'r dyddiau fod yn ychydig i chwi, ac am eu byrhau; eisoes y mae'r deyrnas wedi ei pharatoi i chwi; byddwch yn wyliadwrus.
14. Galw'r nef yn dyst, galw'r ddaear yn dyst: yr wyf wedi dileu'r drwg a chreu'r da; oherwydd byw wyf fi,” medd yr Arglwydd.
15. “Fam, cofleidia dy blant; maetha hwy yn llawen, fel y gwna colomen; rho nerth i'w traed hwy. Oherwydd yr wyf fi wedi dy ddewis di,” medd yr Arglwydd.
16. “Atgyfodaf y meirw o'u lleoedd a'u dwyn allan o'u beddau, am fy mod yn cydnabod fy enw ynddynt hwy.