2 Esdras 2:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Derbyniais i, Esra, orchymyn gan yr Arglwydd ar Fynydd Horeb, i fynd at Israel; ond pan ddeuthum atynt, fy nirmygu a wnaethant, a bwrw gorchymyn yr Arglwydd o'r neilltu.

34. Am hynny rwy'n dweud wrthych chwi, genhedloedd, chwi sydd yn clywed ac yn deall: “Disgwyliwch am eich bugail, ac fe rydd ichwi orffwys tragwyddol; oherwydd y mae'r un sydd i ddod ar ddiwedd y byd yn agos iawn.

35. Byddwch barod i dderbyn gwobrau'r deyrnas, oblegid bydd goleuni diddiwedd yn llewyrchu arnoch yn dragywydd.

36. Ffowch rhag cysgod y byd hwn, a derbyniwch orfoledd eich gogoniant. Yr wyf fi'n dwyn tystiolaeth agored i'm Gwaredwr

2 Esdras 2