25. Di, famaeth dda, meithrin dy blant a rho nerth i'w traed hwy.
26. Ni chollir un o'r gweision a roddais i ti, oblegid fe'u ceisiaf o blith dy rifedi.
27. Paid â chynhyrfu, oherwydd pan ddaw dydd gorthrwm a chyfyngder, bydd eraill mewn galar a thristwch, ond byddi di'n llawen ac ar ben dy ddigon.
28. Bydd y cenhedloedd yn genfigennus, ond yn analluog i wneud dim yn dy erbyn di,” medd yr Arglwydd.
29. “Bydd fy nwylo'n dy warchod, rhag i'th blant weld Gehenna.
30. Gorfoledda, fam, ynghyd â'th blant, oherwydd arbedaf di,” medd yr Arglwydd.
31. “Cofia dy blant sydd yn huno, oblegid fe'u dygaf allan o leoedd dirgel y ddaear, a thrugarhaf wrthynt; oherwydd trugarog wyf fi,” medd yr Arglwydd Hollalluog.
32. “Cofleidia dy blant nes i mi ddod, a chyhoedda iddynt drugaredd, am fod fy ffynhonnau yn llifo trosodd, heb ddim pall ar fy ngras i.”
33. Derbyniais i, Esra, orchymyn gan yr Arglwydd ar Fynydd Horeb, i fynd at Israel; ond pan ddeuthum atynt, fy nirmygu a wnaethant, a bwrw gorchymyn yr Arglwydd o'r neilltu.
34. Am hynny rwy'n dweud wrthych chwi, genhedloedd, chwi sydd yn clywed ac yn deall: “Disgwyliwch am eich bugail, ac fe rydd ichwi orffwys tragwyddol; oherwydd y mae'r un sydd i ddod ar ddiwedd y byd yn agos iawn.
35. Byddwch barod i dderbyn gwobrau'r deyrnas, oblegid bydd goleuni diddiwedd yn llewyrchu arnoch yn dragywydd.
36. Ffowch rhag cysgod y byd hwn, a derbyniwch orfoledd eich gogoniant. Yr wyf fi'n dwyn tystiolaeth agored i'm Gwaredwr