2 Esdras 2:11-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Adfeddiannaf ogoniant Israel; a'r tragwyddol bebyll yr oeddwn wedi eu darparu iddi hi, fe'u rhoddaf i'm pobl fy hun.

12. Eiddynt hwy fydd pren y bywyd a'i arogl pêr, ac ni ddaw llafur a lludded arnynt.

13. Ceisiwch, ac fe gewch; gofynnwch am i'r dyddiau fod yn ychydig i chwi, ac am eu byrhau; eisoes y mae'r deyrnas wedi ei pharatoi i chwi; byddwch yn wyliadwrus.

14. Galw'r nef yn dyst, galw'r ddaear yn dyst: yr wyf wedi dileu'r drwg a chreu'r da; oherwydd byw wyf fi,” medd yr Arglwydd.

15. “Fam, cofleidia dy blant; maetha hwy yn llawen, fel y gwna colomen; rho nerth i'w traed hwy. Oherwydd yr wyf fi wedi dy ddewis di,” medd yr Arglwydd.

16. “Atgyfodaf y meirw o'u lleoedd a'u dwyn allan o'u beddau, am fy mod yn cydnabod fy enw ynddynt hwy.

17. Paid ag ofni, fam y plant, oherwydd yr wyf fi wedi dy ddewis di,” medd yr Arglwydd.

18. “Anfonaf fy ngweision Eseia a Jeremeia i'th gynorthwyo; yn unol â'u proffwydoliaeth hwy yr wyf wedi cysegru a darparu ar dy gyfer ddeuddeg pren yn plygu dan bwysau eu gwahanol ffrwythau,

19. a deuddeg ffynnon yn llifeirio o laeth a mêl, a saith mynydd enfawr wedi eu gorchuddio â rhos a lili; â'r rhain fe lanwaf dy blant â gorfoledd.

20. Gwna gyfiawnder â'r weddw, barna dros y di-dad, rho i'r anghenus, gofala am yr amddifad, dillada'r noeth.

21. Cymer ofal o'r clwyfedig a'r gwan, paid â gwawdio'r cloff, gwarchod yr anafus, a dwg y dall i olwg fy nisgleirdeb i.

22. Cadw'r hen a'r ifanc yn ddiogel o fewn dy furiau.

23. Lle bynnag y doi o hyd i rai meirw, cladda hwy mewn bedd, gan osod nod arnynt; yna, pan atgyfodaf y meirw, rhoddaf i ti y lle blaenaf.

24. Ymlacia a bydd lonydd, fy mhobl; oherwydd fe ddaw dy orffwystra.

25. Di, famaeth dda, meithrin dy blant a rho nerth i'w traed hwy.

2 Esdras 2