2 Esdras 16:64-68 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

64. Am hynny bydd yr Arglwydd yn chwilio'n fanwl eu holl weithredoedd hwy, a pheri i chwi i gyd gywilyddio.

65. Gwaradwydd fydd i chwi pan ddaw eich pechodau allan yn agored gerbron pawb; bydd eich anghyfiawnderau yn sefyll i'ch cyhuddo yn y dydd hwnnw.

66. Beth a wnewch chwi? Sut y gallwch guddio'ch pechodau oddi wrth Dduw a'i angylion?

67. Duw yn wir yw'r barnwr; ofnwch ef! Rhowch y gorau i'ch pechu, a rhowch heibio eich anghyfiawnderau, i beidio â'u cyflawni byth mwy. Yna daw Duw â chwi allan, a'ch rhyddhau o'ch holl drallodion.

68. Oherwydd yn wir y mae llu mawr â'u hawch amdanoch ar dân; fe gipiant ymaith rai ohonoch, a'ch bwydo â bwyd a offrymwyd i eilunod.

2 Esdras 16