2 Esdras 16:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Eto, ynghanol hyn i gyd, ni thrônt oddi wrth eu drygioni, na chadw'r fflangellau mewn cof yn hir.

21. Bydd bwydydd mor rhad ar y ddaear fel y cred y bobl fod eu ffyniant yn sicr, ond dyna'r union adeg y bydd drygau'n blaguro ar y ddaear—cleddyf, newyn a therfysg mawr.

22. Bydd mwyafrif trigolion y ddaear yn marw o newyn; a'r gweddill, y rhai a ddihangodd rhag y newyn, yn cael eu difa gan gleddyf.

23. A theflir allan y meirw fel tail, ac ni bydd neb i gynnig cysur; oherwydd gadewir y ddaear yn anghyfannedd a'i dinasoedd yn adfeilion.

24. Ni bydd neb ar ôl i drin y tir a'i hau.

2 Esdras 16