2 Esdras 16:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae di, Fabilon, ac Asia hefyd! Gwae di, yr Aifft, a Syria!

2. Ymwregyswch â sachliain a blew geifr, galarwch a thristewch dros eich plant, oherwydd y mae eich distryw gerllaw.

3. Y mae'r cleddyf wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w droi ymaith?

4. Y mae tân wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w ddiffodd?

2 Esdras 16