2 Esdras 15:49-55 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

49. “Anfonaf ddrygau arnat: gweddwdod a thlodi, newyn a chleddyf a haint, i ddifrodi dy gartrefi a dwyn trais a marwolaeth yn eu sgil.

50. Bydd gogoniant dy nerth yn crino fel blodeuyn, pan gyfyd y gwres a anfonir arnat.

51. Byddi'n wan a thlawd gan wialenodiau, wedi dy gystwyo â chlwyfau, yn anabl mwyach i dderbyn dy gariadon nerthol.

52. A fyddwn i mor eiddgar yn dy erbyn,” medd yr Arglwydd,

53. “oni bai i ti bob amser ladd fy etholedigion i, gan lawenhau a churo dwylo a gwawdio'n feddw uwchben eu cyrff?

54. Ymbincia!

55. Cei dâl putain yn dy boced, ac felly fe dderbynni dy wobr.

2 Esdras 15