2 Esdras 15:42-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Bwriant i lawr ddinasoedd a muriau, mynyddoedd a bryniau, coed y fforestydd a chnydau'r meysydd.

43. Daliant i fynd yn eu blaen hyd at Fabilon, a'i llwyr ddinistrio hi.

44. Pan ymgasglant yno, fe'i hamgylchant hi ac arllwys ar ei phen y dymestl a'i holl ddicter; bydd y llwch a'r mwg yn codi i'r nefoedd, a bydd pawb o'i hamgylch yn galaru am Fabilon.

45. A chaethweision i'w dinistrwyr hi fydd unrhyw rai a adewir.

46. A thithau Asia, a fu'n gyfrannog o brydferthwch Babilon a'i gogoniant hi,

47. gwae di, y druan! Oherwydd yr wyt wedi ymdebygu iddi hi, gan wisgo dy ferched â phuteindra, i foddhau, ac i ymffrostio yn y cariadon a fu bob amser yn dy chwenychu di.

48. Yr wyt wedi efelychu'r butain ffiaidd yn ei holl weithredoedd a'i hystrywiau. Am hynny y mae Duw yn dweud:

49. “Anfonaf ddrygau arnat: gweddwdod a thlodi, newyn a chleddyf a haint, i ddifrodi dy gartrefi a dwyn trais a marwolaeth yn eu sgil.

50. Bydd gogoniant dy nerth yn crino fel blodeuyn, pan gyfyd y gwres a anfonir arnat.

51. Byddi'n wan a thlawd gan wialenodiau, wedi dy gystwyo â chlwyfau, yn anabl mwyach i dderbyn dy gariadon nerthol.

52. A fyddwn i mor eiddgar yn dy erbyn,” medd yr Arglwydd,

53. “oni bai i ti bob amser ladd fy etholedigion i, gan lawenhau a churo dwylo a gwawdio'n feddw uwchben eu cyrff?

54. Ymbincia!

55. Cei dâl putain yn dy boced, ac felly fe dderbynni dy wobr.

56. Fel y gwnei di i'm hetholedigion i,” medd yr Arglwydd, “felly y gwna Duw i tithau, a'th fwrw i'r un drygau.

57. Bydd dy blant farw o newyn; byddi dithau'n syrthio drwy'r cleddyf, sethrir dy ddinasoedd i'r llawr, a lleddir dy holl bobl ar faes y gâd.

58. Trengi o newyn y bydd y rhai sydd yn y mynyddoedd, yn cnoi eu cnawd eu hunain ac yn yfed eu gwaed eu hunain, o eisiau bara a syched am ddŵr.

59. Ti a fydd flaenaf mewn trueni, a daw drygau pellach i'th ran.

60. Wrth i'r gorchfygwyr fynd heibio ar eu taith yn ôl wedi dymchweliad Babilon, chwalant dy ddinas lonydd, dinistriant dy randir helaeth, a rhoi diwedd ar dy gyfran o ogoniant.

2 Esdras 15