2 Esdras 14:44-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

44. Yn y deugain diwrnod fe ysgrifennwyd naw deg a phedwar o lyfrau.

45. A phan gwblhawyd y deugain diwrnod, siaradodd y Goruchaf â mi fel hyn: “Gwna'n hysbys y llyfrau cyntaf a ysgrifennaist, a gad i'r rhai teilwng a'r annheilwng fel ei gilydd eu darllen,

46. ond cadw'n ôl y saith deg olaf, i'w cyflwyno i'r doethion ymhlith dy bobl.

47. Oherwydd ynddynt hwy y mae ffrwd deall, ffynnon doethineb, ac afon gwybodaeth.”

48. A gwneuthum felly.

2 Esdras 14