2 Esdras 14:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Ond darpara di lawer o dabledi ysgrifennu, a chymer gyda thi Sarea, Dabria, Selemia, Ethanus ac Asiel—pump a hyfforddwyd i ysgrifennu'n gyflym.

25. Wedyn tyrd yma, a chyneuaf yn dy feddwl lusern deall, ac ni ddiffoddir hi nes cwblhau'r cyfan yr wyt i'w ysgrifennu.

26. A phan fyddi wedi gorffen, gelli wneud rhai pethau'n hysbys i bawb, ond cyflwyno eraill yn gyfrinachol i'r doethion. Y pryd hwn yfory cei ddechrau ysgrifennu.”

27. Euthum allan, fel y gorchmynnodd ef imi, a galw'r holl bobl ynghyd, a dweud:

28. “Clyw, Israel, y geiriau hyn.

2 Esdras 14