18. Bydd gwirionedd yn cilio draw, ac anwiredd yn agosáu. Oherwydd y mae'r eryr a welaist yn dy freuddwyd eisoes yn dod ar frys.”
19. Atebais innau fel hyn: “A gaf fi siarad yn dy wyddfod, Arglwydd? Dyma fi ar fin ymadael, yn unol â'th orchymyn; fe geryddaf fi y bobl sydd yn awr yn fyw, ond pwy sydd i rybuddio'r rhai a enir ar ôl hyn?
20. Y mae'r byd yn gorwedd mewn tywyllwch, ac y mae ei drigolion heb oleuni.
21. Oherwydd y mae dy gyfraith di wedi ei llosgi, ac felly ni ŵyr neb am y gweithredoedd a gyflawnwyd gennyt neu sydd eto i'w cyflawni.
22. Felly, os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dyro ysbryd sanctaidd o'm mewn, ac ysgrifennaf holl hanes y byd o'r dechreuad, a'r pethau oedd yn ysgrifenedig yn dy gyfraith di; felly bydd yn bosibl i ddynion ddarganfod y llwybr, a chael byw, os dymunant hynny, yn yr amseroedd diwethaf.”
23. Atebodd ef fi fel hyn: “Dos, galw'r bobl ynghyd, a dywed wrthynt nad ydynt i chwilio amdanat am ddeugain diwrnod.
24. Ond darpara di lawer o dabledi ysgrifennu, a chymer gyda thi Sarea, Dabria, Selemia, Ethanus ac Asiel—pump a hyfforddwyd i ysgrifennu'n gyflym.
25. Wedyn tyrd yma, a chyneuaf yn dy feddwl lusern deall, ac ni ddiffoddir hi nes cwblhau'r cyfan yr wyt i'w ysgrifennu.