2 Esdras 14:17-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Oherwydd po fwyaf y bydd henaint yn gwanychu'r byd, amlaf y drygau a ddaw ar ei drigolion.

18. Bydd gwirionedd yn cilio draw, ac anwiredd yn agosáu. Oherwydd y mae'r eryr a welaist yn dy freuddwyd eisoes yn dod ar frys.”

19. Atebais innau fel hyn: “A gaf fi siarad yn dy wyddfod, Arglwydd? Dyma fi ar fin ymadael, yn unol â'th orchymyn; fe geryddaf fi y bobl sydd yn awr yn fyw, ond pwy sydd i rybuddio'r rhai a enir ar ôl hyn?

20. Y mae'r byd yn gorwedd mewn tywyllwch, ac y mae ei drigolion heb oleuni.

21. Oherwydd y mae dy gyfraith di wedi ei llosgi, ac felly ni ŵyr neb am y gweithredoedd a gyflawnwyd gennyt neu sydd eto i'w cyflawni.

22. Felly, os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dyro ysbryd sanctaidd o'm mewn, ac ysgrifennaf holl hanes y byd o'r dechreuad, a'r pethau oedd yn ysgrifenedig yn dy gyfraith di; felly bydd yn bosibl i ddynion ddarganfod y llwybr, a chael byw, os dymunant hynny, yn yr amseroedd diwethaf.”

23. Atebodd ef fi fel hyn: “Dos, galw'r bobl ynghyd, a dywed wrthynt nad ydynt i chwilio amdanat am ddeugain diwrnod.

24. Ond darpara di lawer o dabledi ysgrifennu, a chymer gyda thi Sarea, Dabria, Selemia, Ethanus ac Asiel—pump a hyfforddwyd i ysgrifennu'n gyflym.

25. Wedyn tyrd yma, a chyneuaf yn dy feddwl lusern deall, ac ni ddiffoddir hi nes cwblhau'r cyfan yr wyt i'w ysgrifennu.

26. A phan fyddi wedi gorffen, gelli wneud rhai pethau'n hysbys i bawb, ond cyflwyno eraill yn gyfrinachol i'r doethion. Y pryd hwn yfory cei ddechrau ysgrifennu.”

27. Euthum allan, fel y gorchmynnodd ef imi, a galw'r holl bobl ynghyd, a dweud:

28. “Clyw, Israel, y geiriau hyn.

29. Estroniaid yn byw yn yr Aifft oedd ein hynafiaid ni yn wreiddiol. Gwaredwyd hwy oddi yno,

30. a derbyniasant gyfraith bywyd. Ond ni chadwasant hi, ac yr ydych chwi hefyd ar eu hôl wedi troseddu.

31. Yna rhoddwyd i chwi wlad yn etifeddiaeth, yn nhiriogaeth Seion; ond pechu a wnaethoch chwi a'ch hynafiaid, heb gadw'r ffyrdd a bennodd y Goruchaf ichwi.

32. Am ei fod ef yn farnwr cyfiawn, ymhen amser fe dynnodd yn ôl oddi wrthych yr hyn yr oedd wedi ei roi.

2 Esdras 14