2 Esdras 13:43-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Wrth iddynt groesi ar draws mynedfeydd cyfyng Afon Ewffrates,

44. rhoddodd y Goruchaf iddynt arwyddion, gan atal ffrydiau'r afon hyd nes iddynt fynd trosodd.

45. Yr oedd eu taith drwy'r wlad honno, a elwir Arsareth, yn un hir, yn para blwyddyn a hanner.

46. Oddi ar hynny y maent wedi byw yno, hyd yr amser diwethaf hwn. Ac yn awr y maent ar fin dychwelyd,

47. ac unwaith eto bydd y Goruchaf yn atal ffrydiau'r afon iddynt gael croesi.

2 Esdras 13