2 Esdras 12:40-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Pan glywodd yr holl bobl fod saith diwrnod wedi mynd heibio, a minnau heb ddychwelyd i'r ddinas, daethant hwy oll ynghyd, o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, a dweud wrthyf:

41. “Pa ddrwg a wnaethom yn dy erbyn, a pha gam a wnaethom â thi, dy fod wedi'n llwyr adael ac ymsefydlu yn y lle hwn?

42. Oherwydd o'r holl broffwydi, ti yw'r unig un a adawyd i ni; yr wyt fel y sypyn olaf o rawnwin y cynhaeaf gwin, fel llusern mewn lle tywyll, ac fel hafan i long a arbedwyd rhag y storm.

43. Onid digon i ni y trallodion sydd wedi dod arnom?

44. Os bydd i ti ein gadael, byddai'n well o lawer pe baem ninnau hefyd wedi ein llosgi yn y tân a losgodd Seion;

45. oherwydd nid ydym ni'n well na'r rhai a fu farw yno.” Yna wylo a wnaethant yn uchel.Atebais innau hwy fel hyn:

46. “Ymwrola, Israel; a thithau, dŷ Jacob, gad dy dristwch.

47. Oherwydd y mae'r Goruchaf yn eich cofio, ac nid yw'r Hollalluog wedi eich gollwng dros gof am byth

48. Nid wyf finnau wedi eich gadael na chefnu arnoch, ond deuthum i'r lle hwn i weddïo dros anghyfanedd-dra Seion ac i geisio trugaredd i'ch cysegr, a ddarostyngwyd.

49. Yn awr ewch adref, bob un ohonoch; ac ar ôl y dyddiau hyn fe ddof atoch.”

50. Yna aeth y bobl ymaith i'r ddinas, fel y dywedais wrthynt.

51. Ond arhosais innau yn y maes am saith diwrnod, yn unol â'r gorchymyn a roddwyd imi. Blodau'r maes yn unig oedd fy mwyd; llysiau oedd fy ymborth y dyddiau hynny.

2 Esdras 12