28. oherwydd difethir un ohonynt gan gleddyf y llall, ond yn y diwedd bydd hwnnw hefyd yn syrthio gan gleddyf.
29. Ynglŷn â'r ddwy is-aden a welaist yn mynd drosodd at y pen ar y llaw dde,
30. dyma'r esboniad: hwy yw'r rhai a gadwodd y Goruchaf hyd y diwedd a bennodd; a thlawd a therfysglyd, fel y gwelaist, fu eu teyrnasiad.
31. A'r llew a welaist yn dod o'r coed, wedi ei ddeffro ac yn rhuo, ac a glywaist yn siarad â'r eryr a'i geryddu am ei weithredoedd anghyfiawn a'i holl eiriau,
32. hwnnw yw'r Eneiniog y mae'r Goruchaf wedi ei gadw hyd y diwedd. Bydd ef yn eu ceryddu hwy am eu hannuwioldeb a'u hanghyfiawnderau, ac yn gosod ger eu bron eu gweithredoedd sarhaus.
33. Oherwydd yn gyntaf bydd yn eu dwyn yn fyw i farn, ac yna, ar ôl eu profi'n euog, yn eu dinistrio.
34. Ond fe ddengys drugaredd tuag at weddill fy mhobl, pawb o fewn terfynau fy nhir a gadwyd yn ddiogel, a'u rhyddhau; bydd yn peri iddynt orfoleddu, hyd nes i'r diwedd ddod, sef y dydd barn y soniais wrthyt amdano ar y dechrau.
35. Dyna'r freuddwyd a welaist, a dyna'i dehongliad.
36. Ti'n unig, fodd bynnag, oedd yn deilwng i wybod y gyfrinach hon o eiddo'r Goruchaf.
37. Gan hynny, ysgrifenna mewn llyfr yr holl bethau hyn a welaist, a'u gosod mewn lle dirgel,
38. a dysg hwy i'r doethion hynny o blith dy bobl y gwyddost fod eu calonnau yn gallu derbyn y cyfrinachau hyn a'u cadw'n ddiogel.