2 Esdras 12:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. am mai hwy yw'r rhai a fydd yn gweithio'i weithredoedd annuwiol ef i'w pen, ac yn rhoi terfyn llwyr arno.

26. Ynglŷn â'r pen mwyaf a welaist yn diflannu, y mae hynny'n arwyddo y bydd farw un ohonynt yn ei wely, ond mewn arteithiau.

27. Caiff y ddau sy'n aros eu lladd â'r cleddyf;

28. oherwydd difethir un ohonynt gan gleddyf y llall, ond yn y diwedd bydd hwnnw hefyd yn syrthio gan gleddyf.

29. Ynglŷn â'r ddwy is-aden a welaist yn mynd drosodd at y pen ar y llaw dde,

30. dyma'r esboniad: hwy yw'r rhai a gadwodd y Goruchaf hyd y diwedd a bennodd; a thlawd a therfysglyd, fel y gwelaist, fu eu teyrnasiad.

2 Esdras 12