2 Esdras 12:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. A dyma'r esboniad ar yr wyth is-aden a welaist yn glynu wrth ei adenydd ef:

20. fe gyfyd o fewn i'r deyrnas wyth brenin, y bydd eu hamserau yn ddibwys a'u blynyddoedd yn fyr; derfydd am ddau ohonynt

21. pan fydd cyfnod canol y deyrnas yn nesáu, ond cedwir pedwar hyd at yr amser pan fydd cyfnod olaf y deyrnas yn nesáu, a chedwir dau hyd y diwedd ei hun.

2 Esdras 12