2 Esdras 12:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Tra oedd y llew yn llefaru'r geiriau hyn wrth yr eryr, edrychais;

2. ac wele, diflannodd yr un pen oedd ar ôl. Yna cododd y ddwy aden a aethai drosodd ato, a'u dyrchafu eu hunain i deyrnasu; ond tlawd a therfysglyd oedd eu teyrnasiad hwy.

3. Wrth imi edrych, dyma hwythau'n dechrau diflannu, a llosgwyd holl gorff yr eryr yn fflamau, a dychrynodd y ddaear yn fawr.Dihunais innau, yn ddryslyd iawn fy meddwl ac mewn braw mawr, a dweud wrthyf fy hun:

4. “Edrych, ti dy hun a ddaeth â'r pethau hyn arnat, am dy fod yn chwilio ffyrdd y Goruchaf.

2 Esdras 12