1. Tra oedd y llew yn llefaru'r geiriau hyn wrth yr eryr, edrychais;
2. ac wele, diflannodd yr un pen oedd ar ôl. Yna cododd y ddwy aden a aethai drosodd ato, a'u dyrchafu eu hunain i deyrnasu; ond tlawd a therfysglyd oedd eu teyrnasiad hwy.
3. Wrth imi edrych, dyma hwythau'n dechrau diflannu, a llosgwyd holl gorff yr eryr yn fflamau, a dychrynodd y ddaear yn fawr.Dihunais innau, yn ddryslyd iawn fy meddwl ac mewn braw mawr, a dweud wrthyf fy hun:
4. “Edrych, ti dy hun a ddaeth â'r pethau hyn arnat, am dy fod yn chwilio ffyrdd y Goruchaf.
5. Rwy'n dal yn flinedig fy meddwl ac yn lluddedig iawn fy ysbryd, ac nid oes ynof nemor ddim nerth, oherwydd yr ofn mawr a fu arnaf y nos hon.
6. Am hynny, gweddïaf yn awr ar y Goruchaf i'm cynnal hyd y diwedd.”
7. Yna dywedais, “Arglwydd iôr, os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, os wyf wedi fy nghyfiawnhau ger dy fron yn fwy na'r lliaws, ac os yw fy ngweddi yn wir wedi codi i'th ŵydd,
8. yna nertha fi, a dangos i mi, dy was, ddehongliad manwl o'r weledigaeth arswydus hon, i ddwyn cysur llawn i'm henaid.
9. Oherwydd yr wyt wedi barnu fy mod yn deilwng i gael dangos imi ddiwedd yr amserau a'r dyddiau diwethaf.”
10. Meddai ef wrthyf: “Dyma ddehongliad y weledigaeth hon a gefaist.
11. Yr eryr a welaist yn esgyn o'r môr yw'r bedwaredd deyrnas a ymddangosodd mewn gweledigaeth i'th frawd Daniel.
12. Ond ni roddwyd iddo ef y dehongliad yr wyf yn ei roi i ti yn awr, neu a rois iti eisoes.
13. Ystyria, y mae'r dyddiau'n dod pan gyfyd ar y ddaear deyrnas a fydd yn fwy arswydlon na'r holl deyrnasoedd a fu o'i blaen.
14. Bydd deuddeg brenin yn olynol yn llywodraethu ar y deyrnas honno,