2 Esdras 11:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. “Peidiwch oll â chadw gwyliadwriaeth yr un pryd; cysgwch bob un yn ei le, a gwylio yn ei dro;

9. ond y mae'r pennau i'w cadw hyd yn ddiwethaf.”

10. Sylwais hefyd nad allan o'i bennau ef yr oedd y llais yn dod, ond o ganol ei gorff.

11. Rhifais ei wrth-adenydd ef, a gweld bod wyth ohonynt.

12. Wrth imi edrych, dyma un o'r adenydd ar y llaw dde yn codi ac yn teyrnasu dros yr holl ddaear.

13. Ac yna daeth diwedd arni hi ac ar ei theyrnasiad; a diflannodd o'r golwg, ac ni welwyd ei lle mwyach. Yna cododd y nesaf, a bu hithau'n teyrnasu am amser hir.

2 Esdras 11