2 Esdras 11:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. gwnaeth yr ail yr un modd, ond diflannodd hon yn gyflymach na'r un o'i blaen.

28. Yna, wrth imi edrych, gwelais y ddwy oedd ar ôl yn cyd-gynllunio i gael teyrnasu eu hunain.

29. Ac wrth iddynt gynllunio, dyma un o'r pennau oedd yn gorffwyso—yr un yn y canol, oedd yn fwy na'r ddau arall—yn dechrau dihuno.

30. Gwelais hefyd iddo uno'r ddau ben arall ag ef ei hun,

31. a throi, ynghyd â'r pennau oedd gydag ef, a bwyta'r ddwy is-aden oedd yn cynllunio i gael teyrnasu.

2 Esdras 11