22. A phan edrychais wedyn, nid oedd y deuddeg aden, na dwy o'r adenydd bychain, i'w gweld;
23. nid oedd dim ar ôl ar gorff yr eryr ond y tri phen yn gorffwys yn llonydd, a chwech aden fechan.
24. Wrth imi edrych, dyma ddwy o'r chwech aden fach yn ymddidoli oddi wrth y lleill ac yn aros o dan y pen ar y dde; arhosodd y pedair arall yn eu lle.
25. Yna gwelais yr is-adenydd hyn yn cynllunio i'w dyrchafu eu hunain i gael teyrnasu.
26. Dyma un ohonynt yn codi, ond diflannodd ar unwaith;
27. gwnaeth yr ail yr un modd, ond diflannodd hon yn gyflymach na'r un o'i blaen.
28. Yna, wrth imi edrych, gwelais y ddwy oedd ar ôl yn cyd-gynllunio i gael teyrnasu eu hunain.
29. Ac wrth iddynt gynllunio, dyma un o'r pennau oedd yn gorffwyso—yr un yn y canol, oedd yn fwy na'r ddau arall—yn dechrau dihuno.
30. Gwelais hefyd iddo uno'r ddau ben arall ag ef ei hun,
31. a throi, ynghyd â'r pennau oedd gydag ef, a bwyta'r ddwy is-aden oedd yn cynllunio i gael teyrnasu.
32. Darostyngodd y pen hwn yr holl ddaear iddo'i hun, ac arglwyddiaethu ar ei thrigolion â gormes mawr; ac yr oedd ei arglwyddiaeth fyd-eang ef yn rymusach nag eiddo'r holl adenydd a fu o'i flaen.
33. Ar ôl hynny edrychais eto, ac yn sydyn dyma'r pen oedd yn y canol yn diflannu, yn union fel yr adenydd.
34. Ond yr oedd dau ben yn aros, a buont hwythau'n teyrnasu dros y ddaear a'i thrigolion;