2 Esdras 11:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. ond yr oedd eraill a gododd na chawsant deyrnasu o gwbl.

22. A phan edrychais wedyn, nid oedd y deuddeg aden, na dwy o'r adenydd bychain, i'w gweld;

23. nid oedd dim ar ôl ar gorff yr eryr ond y tri phen yn gorffwys yn llonydd, a chwech aden fechan.

24. Wrth imi edrych, dyma ddwy o'r chwech aden fach yn ymddidoli oddi wrth y lleill ac yn aros o dan y pen ar y dde; arhosodd y pedair arall yn eu lle.

25. Yna gwelais yr is-adenydd hyn yn cynllunio i'w dyrchafu eu hunain i gael teyrnasu.

26. Dyma un ohonynt yn codi, ond diflannodd ar unwaith;

2 Esdras 11