2 Esdras 11:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr ail noson cefais freuddwyd, a gweld yn dod i fyny o'r môr eryr a chanddo ddeuddeg aden bluog a thri phen.

2. Edrychais, a dyma'r eryr yn lledu ei adenydd dros yr holl ddaear; chwythodd holl wyntoedd y nefoedd arno ef, ac ymgasglodd y cymylau o'i gwmpas.

3. Allan o'i adenydd ef gwelais wrth-adenydd yn tarddu, ond heb dyfu'n ddim ond adenydd bach a phitw.

2 Esdras 11