1. Yr ail noson cefais freuddwyd, a gweld yn dod i fyny o'r môr eryr a chanddo ddeuddeg aden bluog a thri phen.
2. Edrychais, a dyma'r eryr yn lledu ei adenydd dros yr holl ddaear; chwythodd holl wyntoedd y nefoedd arno ef, ac ymgasglodd y cymylau o'i gwmpas.
3. Allan o'i adenydd ef gwelais wrth-adenydd yn tarddu, ond heb dyfu'n ddim ond adenydd bach a phitw.
4. Yr oedd ei bennau yn gorffwys yn llonydd; yr oedd hyd yn oed y pen canol, er ei fod yn fwy na'r pennau eraill, yn gorffwys yn llonydd gyda hwy.
5. Wrth imi edrych, dyma'r eryr yn hedfan ar ei adenydd i ennill arglwyddiaeth ar y ddaear a'i thrigolion.
6. Gwelais fel y gwnaed popeth dan y nefoedd yn ddarostyngedig iddo; ac ni chafodd ei wrthwynebu gan unrhyw greadur ar wyneb y ddaear, naddo gan un.
7. Edrychais, a dyma'r eryr yn sefyll ar ei ewinedd ac yn llefaru wrth ei adenydd fel hyn:
8. “Peidiwch oll â chadw gwyliadwriaeth yr un pryd; cysgwch bob un yn ei le, a gwylio yn ei dro;
9. ond y mae'r pennau i'w cadw hyd yn ddiwethaf.”
10. Sylwais hefyd nad allan o'i bennau ef yr oedd y llais yn dod, ond o ganol ei gorff.
11. Rhifais ei wrth-adenydd ef, a gweld bod wyth ohonynt.
12. Wrth imi edrych, dyma un o'r adenydd ar y llaw dde yn codi ac yn teyrnasu dros yr holl ddaear.
13. Ac yna daeth diwedd arni hi ac ar ei theyrnasiad; a diflannodd o'r golwg, ac ni welwyd ei lle mwyach. Yna cododd y nesaf, a bu hithau'n teyrnasu am amser hir.
14. A phan oedd diwedd ei theyrnasiad yn agosáu, a hithau ar fin diflannu fel y gyntaf,