2 Esdras 10:58-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

58. Ond aros yma hyd nos yfory,

59. ac mewn breuddwydion fe ddengys y Goruchaf iti weledigaethau o'r pethau y bydd ef yn eu gwneud i'r rhai fydd yn trigo ar y ddaear yn y dyddiau diwethaf.”

60. Felly, yn unol â'r gorchymyn a gefais ganddo, cysgais y nos honno a nos drannoeth.

2 Esdras 10