2 Esdras 10:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Ond pan aeth fy mab i mewn i'w ystafell briodas, syrthiodd yn farw.

2. Diffoddasom bawb ei lamp, a chododd fy nghymdogion oll i'm cysuro; arhosais innau'n dawel hyd nos drannoeth.

3. Wedi iddynt hwy oll roi'r gorau i'w cais i'm cysuro a'm cadw'n dawel, codais liw nos a ffoi, a dod, fel y gweli, i'r maes hwn.

4. A'm bwriad yw peidio â dychwelyd mwyach i'r ddinas, ond aros yma, heb fwyta nac yfed, a galaru ac ymprydio yn ddi-baid hyd angau.”

2 Esdras 10