2 Esdras 1:36-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Er na welsant y proffwydi, eto i gyd fe gofiant eiriau proffwydi'r dyddiau gynt.

37. Yr wyf yn galw yn dyst ddiolchgarwch y bobl sydd i ddod; bydd eu plant bychain yn neidio gan lawenydd, ac er na chânt fy ngweld â'u llygaid naturiol, eto trwy'r ysbryd fe gredant fy ngeiriau.

38. “Ac yn awr, dad, edrych â gorfoledd, a gwêl y bobl sydd i ddod o'r dwyrain.

39. Rhoddaf yn arweinwyr iddynt Abraham, Isaac a Jacob, Hosea ac Amos, Micha a Joel, Obadeia a Jona,

40. Nahum a Habacuc, Seffaneia, Haggai, Sechareia a Malachi, a alwyd hefyd yn Negesydd yr Arglwydd.”

2 Esdras 1