2 Esdras 1:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Y mae eich tŷ chwi wedi ei adael yn anghyfannedd; fe'ch lluchiaf chwi ymaith, fel gwynt yn lluchio gwellt.

34. Ni chaiff eich plant genhedlu, am iddynt, fel chwithau, ddiystyru fy ngorchymyn a gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg.

35. Trosglwyddaf eich tai chwi i bobl sydd i ddod, pobl a gred er na chlywsant fi, pobl a geidw fy ngorchmynion er na roddais arwyddion iddynt.

36. Er na welsant y proffwydi, eto i gyd fe gofiant eiriau proffwydi'r dyddiau gynt.

2 Esdras 1