29. ar i chwi fod yn bobl i mi, ac i minnau fod yn Dduw i chwithau; ar i chwi fod yn blant i mi, ac i minnau fod yn dad i chwithau?
30. Felly, fe'ch cesglais chwi ynghyd fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd. Ond beth a wnaf â chwi yn awr? Bwriaf chwi allan o'm gŵydd.
31. Pan ddygwch offrymau i mi, trof fy wyneb oddi wrthych; oherwydd yr wyf wedi gwrthod eich dyddiau gŵyl, eich newydd-loerau, a'ch enwaediadau ar y cnawd.
32. Anfonais atoch fy ngweision y proffwydi, ond yr hyn a wnaethoch chwi oedd eu cymryd hwy a'u lladd, a darnio eu cyrff; mynnaf gael cyfrif am eu gwaed hwy,” medd yr Arglwydd.
33. “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Y mae eich tŷ chwi wedi ei adael yn anghyfannedd; fe'ch lluchiaf chwi ymaith, fel gwynt yn lluchio gwellt.
34. Ni chaiff eich plant genhedlu, am iddynt, fel chwithau, ddiystyru fy ngorchymyn a gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg.
35. Trosglwyddaf eich tai chwi i bobl sydd i ddod, pobl a gred er na chlywsant fi, pobl a geidw fy ngorchmynion er na roddais arwyddion iddynt.
36. Er na welsant y proffwydi, eto i gyd fe gofiant eiriau proffwydi'r dyddiau gynt.
37. Yr wyf yn galw yn dyst ddiolchgarwch y bobl sydd i ddod; bydd eu plant bychain yn neidio gan lawenydd, ac er na chânt fy ngweld â'u llygaid naturiol, eto trwy'r ysbryd fe gredant fy ngeiriau.
38. “Ac yn awr, dad, edrych â gorfoledd, a gwêl y bobl sydd i ddod o'r dwyrain.
39. Rhoddaf yn arweinwyr iddynt Abraham, Isaac a Jacob, Hosea ac Amos, Micha a Joel, Obadeia a Jona,
40. Nahum a Habacuc, Seffaneia, Haggai, Sechareia a Malachi, a alwyd hefyd yn Negesydd yr Arglwydd.”