2 Esdras 1:18-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. fel hyn: ‘Pam yr wyt ti wedi ein dwyn ni i'r anialwch hwn i'n lladd? Buasai'n well i ni fod yn gaethweision i'r Eifftiaid na marw yn yr anialwch hwn.’

19. Yr oedd yn ofidus gennyf am eich cwynion, a rhoddais ichwi fanna yn ymborth; bwytasoch fara angylion. Pan oedd syched arnoch, oni holltais i'r graig, a dyna ddigonedd o ddŵr yn llifo allan?

20. Ac oherwydd y gwres rhoddais ddail y coed yn gysgod ichwi.

21. Rhennais diroedd ffrwythlon rhyngoch, gan fwrw allan y Canaaneaid, y Pheresiaid a'r Philistiaid o'ch blaen. Beth arall a allaf ei wneud er eich mwyn?” medd yr Arglwydd.

22. “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Pan oeddech yn yr anialwch, yn sychedu wrth yr afon chwerw ac yn fy nghablu,

23. nid anfon tân arnoch am eich cableddau a wneuthum, ond bwrw pren i'r dŵr a melysu'r afon.

24. Beth a wnaf â thi, Jacob, â thi, Jwda, na fynnaist ufuddhau i mi? Fe drof at genhedloedd eraill, a rhoddaf fy enw iddynt, er mwyn iddynt hwy gael cadw fy neddfau.

25. Gan i chwi fy ngadael i, fe'ch gadawaf finnau chwithau; pan ymbiliwch arnaf am drugaredd, ni thrugarhaf wrthych.

26. Pan alwch arnaf, ni wrandawaf arnoch; oherwydd yr ydych wedi difwyno eich dwylo â gwaed, ac yr ydych yn chwim eich troed i gyflawni llofruddiaeth.

27. Nid arnaf fi, fel petai, ond arnoch chwi eich hunain yr ydych wedi cefnu,” medd yr Arglwydd.

28. “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Onid wyf fi wedi ymhŵedd arnoch, fel tad ar ei feibion, neu fam ar ei merched, neu famaeth ar ei babanod,

29. ar i chwi fod yn bobl i mi, ac i minnau fod yn Dduw i chwithau; ar i chwi fod yn blant i mi, ac i minnau fod yn dad i chwithau?

2 Esdras 1