2 Cronicl 9:11-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gwnaeth y brenin risiau ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun allan o'r coed almug, a hefyd gwnaeth i'r cantorion delynau a nablau na welwyd eu bath o'r blaen yng ngwlad Jwda.

12. Rhoddodd y Brenin Solomon i frenhines Sheba bopeth a chwenychodd, mwy nag a ddug hi iddo ef. Yna troes hi a'i gosgordd yn ôl i'w gwlad.

13. Yr oedd pwysau'r aur a ddôi i Solomon mewn blwyddyn yn chwe chant chwe deg a chwech o dalentau,

14. heblaw yr hyn a gâi gan y marchnadwyr a'r masnachwyr; hefyd fe ddôi holl frenhinoedd Arabia a rheolwyr y taleithiau ag aur ac arian iddo.

15. Gwnaeth y Brenin Solomon ddau gan tarian o aur gyr, a rhoi chwe chan sicl o aur gyr ym mhob tarian.

16. Gwnaeth hefyd dri chan bwcled o aur gyr, gyda thri mina o aur ym mhob un;

17. a rhoddodd y brenin hwy yn Nhŷ Coedwig Lebanon. Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro ag aur coeth.

18. Yr oedd i'r orseddfainc chwe gris a throedle aur; yr oedd dwy fraich o boptu i'r sedd a dau lew yn sefyll wrth y breichiau.

19. Yr oedd hefyd ddeuddeg llew yn sefyll, un bob pen i bob un o'r chwe gris. Ni wnaed ei thebyg mewn unrhyw deyrnas.

20. Yr oedd holl lestri gwledda'r Brenin Solomon o aur, a holl offer Tŷ Coedwig Lebanon yn aur pur. Nid oedd yr un ohonynt o arian, am nad oedd bri arno yn nyddiau Solomon.

21. Yr oedd gweision Hiram yn mynd â llongau'r brenin i Tarsis, ac unwaith bob tair blynedd fe ddôi llongau Tarsis â'u llwyth o aur, arian ac ifori, ac epaod a pheunod.

22. Rhagorodd y Brenin Solomon ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.

23. Ac yr oedd holl frenhinoedd y ddaear yn ymweld â Solomon i glywed y ddoethineb a roes Duw yn ei galon.

24. Bob blwyddyn dôi rhai â'u rhoddion—llestri aur ac arian, gwisgoedd, myrr, perlysiau, meirch a mulod.

25. Yr oedd gan Solomon bedair mil o gorau ar gyfer meirch a cherbydau, a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chydag ef yn Jerwsalem.

26. Ac yr oedd yn teyrnasu ar yr holl frenhinoedd o'r Ewffrates hyd at wlad y Philistiaid ar derfyn yr Aifft.

27. Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela.

28. A dôi ceffylau i Solomon o'r Aifft ac o'r holl wledydd.

29. Am weddill hanes Solomon, o'r dechrau i'r diwedd, onid yw ar gael yn llyfr Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Aheia o Seilo, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam fab Nebat?

30. Teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel gyfan am ddeugain mlynedd.

2 Cronicl 9