2 Cronicl 7:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ond os byddwch chwi'n gwrthgilio ac yn gwrthod fy ordinhadau a'm gorchmynion, a osodais o'ch blaen, ac os byddwch yn mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli,

20. yna fe ddiwreiddiaf Israel o'm gwlad, a roddais iddynt, a bwriaf o'm golwg y tŷ a gysegrais i'm henw, a'i wneud yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.

21. Bydd y tŷ hwn yn adfail, a phob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu ac yn dweud, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r wlad hon ac i'r tŷ hwn?’

22. A dywedir, ‘Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a ddaeth â hwy o wlad yr Aifft, a glynu wrth dduwiau estron a'u haddoli a'u gwasanaethu; dyna pam y dygodd ef yr holl ddrwg yma arnynt.’ ”

2 Cronicl 7