2 Cronicl 4:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. y canwyllbrennau a'u lampau o aur pur, i oleuo o flaen y gafell yn ôl y ddefod;

21. y blodau, y llusernau, a'r gefeiliau aur, a hwnnw'n aur perffaith;

22. y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau o aur pur; o aur hefyd yr oedd drws y tŷ a'i ddorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf, a'r dorau o fewn y côr.

2 Cronicl 4