2 Cronicl 34:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dywedodd Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, “Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ'r ARGLWYDD.” A rhoddodd y llyfr i Saffan.

16. Aeth Saffan â'r llyfr at y brenin a'r un pryd rhoi adroddiad iddo a dweud, “Y mae dy weision yn gwneud y cwbl a orchmynnwyd iddynt.

17. Y maent wedi cyfrif yr arian oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD ac wedi ei drosglwyddo i'r ymgymerwyr a'r gweithwyr.”

18. Ac ychwanegodd Saffan yr ysgrifennydd wrth y brenin, “Rhoddodd Hilceia'r offeiriad lyfr imi”; a darllenodd Saffan ef i'r brenin.

19. Pan glywodd y brenin gynnwys y gyfraith, rhwygodd ei ddillad,

20. a gorchmynnodd i Hilceia ac i Ahicam fab Saffan, ac i Abdon fab Nicha, ac i Saffan yr ysgrifennydd ac i Asaia gwas y brenin,

2 Cronicl 34