2 Cronicl 32:11-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Onid yw Heseceia yn eich twyllo ac yn eich condemnio i farw o newyn a syched trwy ddweud, ‘Yr Arglwydd ein Duw a'n gwared ni o law brenin Asyria’?

12. Onid yr Heseceia hwn a dynnodd ymaith ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, ‘O flaen un allor yr addolwch ac arni hi yn unig yr arogldarthwch’?

13. Oni wyddoch beth a wneuthum i a'm rhagflaenwyr i holl bobloedd y gwledydd?

14. Prun o holl dduwiau'r cenhedloedd hyn, a ddinistriwyd gan fy rhagflaenwyr, a allodd waredu ei bobl o'm gafael? Sut felly y gall eich Duw chwi eich gwaredu o'm gafael?

15. Yn awr, peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo a'ch hudo fel hyn. Peidiwch ag ymddiried ynddo, oherwydd ni allodd duw unrhyw genedl na theyrnas waredu ei bobl o'm gafael i nac o afael fy rhagflaenwyr. Yn sicr ni all eich Duw chwi eich gwaredu o'm gafael!”

16. Dywedodd gweision Senacherib lawer mwy yn erbyn yr ARGLWYDD Dduw a'i was Heseceia.

17. Ysgrifennodd lythyrau hefyd yn gwatwar yr ARGLWYDD, Duw Israel, fel hyn: “Fel y methodd duwiau cenhedloedd y gwledydd waredu eu pobl o'm gafael, ni fydd Duw Heseceia chwaith yn gwaredu ei bobl o'm gafael.”

18. A gwaeddasant yn uchel mewn Hebraeg ar bobl Jerwsalem oedd ar y mur, i godi arswyd arnynt er mwyn cymryd y ddinas.

19. Dywedasant fod Duw Jerwsalem yr un fath â duwiau pobloedd y ddaear, sef gwaith dwylo dynol.

20. Oherwydd hyn gweddïodd y Brenin Heseceia a'r proffwyd Eseia fab Amos â llef uchel tua'r nefoedd.

21. Ac anfonodd yr ARGLWYDD angel a lladd pob gwron, arweinydd a chapten yng ngwersyll brenin Asyria. Dychwelodd yntau mewn cywilydd i'w wlad. A phan aeth i dŷ ei dduw, lladdwyd ef yno â'r cleddyf gan rai o'i blant ei hun.

22. Felly gwaredodd yr ARGLWYDD Heseceia a thrigolion Jerwsalem o afael Senacherib brenin Asyria ac o afael eu holl elynion; amddiffynnodd hwy rhag pawb o'u hamgylch.

23. Daeth llawer i Jerwsalem gydag offrymau i'r ARGLWYDD ac anrhegion gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda. Ac ar ôl hynny cafodd y brenin ei barchu gan yr holl genhedloedd.

24. Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD. Atebodd yntau ef trwy roi arwydd iddo.

25. Ond am ei fod yn falch, ni werthfawrogodd Heseceia yr hyn a wnaed iddo, a daeth llid Duw arno ef ac ar Jwda a Jerwsalem.

26. Yna, edifarhaodd Heseceia am ei falchder, a phobl Jerwsalem gydag ef, ac ni ddaeth llid yr ARGLWYDD arnynt wedyn yng nghyfnod Heseceia.

27. Yr oedd gan Heseceia olud a chyfoeth mawr iawn, a gwnaeth iddo'i hun drysordai ar gyfer arian ac aur, meini gwerthfawr, peraroglau, tarianau a phob math o bethau godidog.

28. Gwnaeth ysguboriau i'r cynhaeaf gwenith, gwin ac olew, a hefyd stablau i bob math o anifail, a chorlannau i ddiadellau.

2 Cronicl 32