2 Cronicl 3:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Addurnodd y gafell â meini gwerthfawr i'w harddu, gan ddefnyddio aur o Parfaim.

7. Taenodd drawstiau, rhiniogau, parwydydd a drysau'r gafell ag aur, a cherfio cerwbiaid ar y parwydydd.

8. Fe wnaeth gafell y cysegr sancteiddiaf yr un hyd â lled y tŷ, ugain cufydd, ac yn ugain cufydd o led, a'i thaenu â chwe chan talent o aur coeth.

9. Yr oedd yr hoelion aur yn pwyso hanner can sicl.

10. Taenodd y goruwchystafelloedd hefyd ag aur. Yng nghafell y cysegr sancteiddiaf fe wnaeth ddau gerwb pren a'u goreuro.

2 Cronicl 3