2 Cronicl 3:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yr oedd aden yr ail gerwb yn bum cufydd ac yn cyffwrdd pared y gafell, a'r aden arall yn bum cufydd ac yn cydio wrth aden y cerwb cyntaf.

13. Yr oedd adenydd y cerwbiaid hyn yn ymestyn ugain cufydd. Yr oedd y cerwbiaid hyn yn sefyll ar eu traed yn wynebu at i mewn.

14. Gwnaeth y llen o borffor ac ysgarlad, sidan glas a lliain main, gyda brodwaith o gerwbiaid arni.

2 Cronicl 3