2 Cronicl 29:23-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Daethant â bychod yr aberth dros bechod o flaen y brenin a'r gynulleidfa, a gosod eu dwylo arnynt;

24. yna lladdodd yr offeiriaid hwy a chyflwyno'u gwaed yn aberth dros bechod ar yr allor, i wneud cymod dros holl Israel. Oherwydd gorchmynnodd y brenin y dylid offrymu poethoffrwm ac aberth dros bechod ar ran Israel gyfan.

25. Gosododd Heseceia y Lefiaid yn nhŷ'r ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd; gorchymyn oedd hwn a ddaeth oddi wrth yr ARGLWYDD trwy ei broffwydi.

26. Safodd y Lefiaid gydag offerynnau Dafydd, a'r offeiriaid gyda'r trwmpedau.

27. Rhoddodd Heseceia orchymyn i offrymu'r poethoffrwm ar yr allor; a phan ddechreuodd y poethoffrwm, fe ddechreuodd cân i'r ARGLWYDD gyda'r trwmpedau ac offerynnau Dafydd brenin Israel.

28. Yr oedd yr holl gynulleidfa yn ymgrymu, y cantorion yn canu a'r trwmpedau yn seinio; parhaodd y cwbl nes gorffen y poethoffrwm.

29. Wedi gorffen offrymu, plygodd y brenin, a phawb oedd gydag ef, ac ymgrymu.

30. Gorchmynnodd y Brenin Heseceia a'r swyddogion i'r Lefiaid foliannu'r ARGLWYDD yng ngeiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly canasant fawl yn llawen, ac ymostwng ac ymgrymu.

31. Dywedodd Heseceia, “Yr ydych yn awr wedi ymgysegru i'r ARGLWYDD; dewch i'w dŷ gydag aberthau ac offrymau diolch.” Felly dygodd y gynulleidfa aberthau ac offrymau diolch, a daeth pob un ewyllysgar â phoethoffrymau.

32. Nifer y poethoffrymau a ddygodd y gynulleidfa oedd deg a thrigain o fustych, cant o hyrddod a dau gant o ŵyn, pob un yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD;

33. nifer yr offrymau cysegredig oedd chwe chant o fustych a thair mil o ddefaid.

2 Cronicl 29