2 Cronicl 29:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pump ar hugain oed oedd Heseceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abeia ferch Sechareia oedd enw ei fam.

2. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

3. Yn y mis cyntaf o'r flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad agorodd ddrysau tŷ'r ARGLWYDD a'u hatgyweirio.

4. Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn y sgwâr ar yr ochr ddwyreiniol,

5. a dweud wrthynt, “Lefiaid, gwrandewch arnaf fi. Ymgysegrwch yn awr, a chysegrwch dŷ'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, a dewch â phob aflendid allan o'r cysegr.

2 Cronicl 29