2 Cronicl 25:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Wedi ymgynghori, anfonodd Amaseia brenin Jwda neges at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, “Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb.”

18. Anfonodd Joas brenin Israel yn ôl at Amaseia brenin Jwda a dweud, “Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon, a dweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i'm mab’. Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.

19. Y mae'n wir iti daro Edom, ond aethost yn ffroenuchel a balch. Yn awr, aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr gyda thi?”

20. Ond ni fynnai Amaseia wrando, oherwydd gwaith Duw oedd hyn er mwyn eu rhoi yn llaw Joas am iddynt droi at dduwiau Edom.

2 Cronicl 25