2 Cronicl 24:8-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ar orchymyn y brenin gwnaethant gist a'i gosod y tu allan i borth tŷ'r ARGLWYDD.

9. Yna cyhoeddwyd trwy Jwda a Jerwsalem fod pawb i roi i'r ARGLWYDD y dreth a osododd Moses gwas Duw ar Israel yn yr anialwch.

10. Dygodd yr holl dywysogion a'r bobl yr arian yn llawen, a'i roi yn y gist nes ei bod yn llawn.

11. Bob tro y byddai'r Lefiaid yn dod â'r gist at swyddogion y brenin, a hwythau'n gweld fod ynddi swm mawr o arian, byddai ysgrifennydd y brenin a swyddog yr archoffeiriad yn dod ac yn gwagio'r gist, ac yna'n mynd â hi'n ôl i'w lle. Gwnaent hyn yn gyson, a chasglu llawer o arian.

12. Rhoddai'r brenin a Jehoiada yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD; yr oeddent hwythau yn cyflogi seiri maen a seiri coed i adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD, a gweithwyr mewn haearn a phres i'w atgyweirio.

13. Yr oedd y rhai a benodwyd yn gweithio'n ddyfal, a bu'r atgyweirio'n llwyddiant dan eu gofal; gwnaethant dŷ Dduw yn gadarn, a'i adfer i'w gyflwr gwreiddiol.

14. Wedi iddynt orffen, daethant â gweddill yr arian i'r brenin ac i Jehoiada, ac fe'i defnyddiwyd i wneud llestri i dŷ'r ARGLWYDD, sef llestri ar gyfer y gwasanaeth a'r poethoffrymau, llwyau a llestri aur ac arian. Buont yn offrymu poethoffrymau yn barhaus yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau Jehoiada.

15. Aeth Jehoiada'n hen, a bu farw mewn oedran teg. Yr oedd yn gant tri deg pan fu farw,

16. a chafodd ei gladdu gyda'r brenhinoedd yn Ninas Dafydd, am iddo wneud daioni yn Israel a gwasanaethu Duw a'i dŷ.

17. Wedi marw Jehoiada, daeth tywysogion Jwda i dalu gwrogaeth i'r brenin, a gwrandawodd yntau arnynt.

18. Yna troesant eu cefn ar dŷ'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a gwasanaethu'r pyst Asera a'r delwau. Daeth llid Duw ar Jwda a Jerwsalem am iddynt droseddu fel hyn.

19. Ac er i'r ARGLWYDD anfon proffwydi atynt i'w harwain yn ôl ato ac i'w hargyhoeddi, ni wrandawsant arnynt.

20. Yna daeth ysbryd Duw ar Sechareia fab Jehoiada yr offeiriad, ac fe safodd gerbron y bobl a dweud, “Fel hyn y dywed Duw: ‘Pam yr ydych yn torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn ffynnu. Am i chwi droi cefn ar yr ARGLWYDD, y mae yntau wedi troi ei gefn arnoch chwi.’ ”

21. Ond gwnaethant gynllwyn yn ei erbyn, ac ar orchymyn y brenin fe'i llabyddiwyd yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD.

22. Anghofiodd y Brenin Jehoas am y caredigrwydd a gafodd gan Jehoiada tad Sechareia, a lladdodd ei fab. Fel yr oedd Sechareia'n marw, dywedodd, “Bydded i'r ARGLWYDD weld, a'th alw i gyfrif.”

23. Ar ddiwedd y flwyddyn daeth byddin Syria i ryfela yn erbyn Jehoas. Daethant i Jwda a Jerwsalem, a lladd pob un o dywysogion y bobl, ac anfon eu hysbail i gyd i frenin Damascus.

24. Er i'r Syriaid ddod gyda byddin fechan, rhoddodd yr ARGLWYDD lu mawr iawn yn eu dwylo, am i'r bobl droi eu cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Felly daethant â barn ar Jehoas.

25. Ar ôl i'r Syriaid fynd ymaith, a'i adael wedi ei glwyfo'n ddrwg, cynllwyniodd ei weision ei hun yn ei erbyn i ddial am farwolaeth mab Jehoiada yr offeiriad, a lladdasant Jehoas ar ei wely. Felly bu farw, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.

2 Cronicl 24