2 Cronicl 24:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Wedi hyn, rhoddodd Jehoas ei fryd ar adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD.

5. Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a dweud wrthynt, “Ewch ar frys trwy holl ddinasoedd Jwda i gasglu'r dreth flynyddol gan Israel gyfan, er mwyn atgyweirio tŷ eich Duw.” Ond ni frysiodd y Lefiaid.

6. Galwodd y brenin ar Jehoiada, yr archoffeiriad, a dweud wrtho, “Pam na fynnaist fod y Lefiaid yn casglu o Jwda a Jerwsalem y dreth a osododd Moses gwas yr ARGLWYDD ar gynulleidfa Israel ar gyfer pabell y dystiolaeth?

7. Oherwydd y mae meibion y wraig ddrwg Athaleia wedi malurio tŷ Dduw, ac wedi rhoi pob un o'i bethau cysegredig i'r Baalim.”

8. Ar orchymyn y brenin gwnaethant gist a'i gosod y tu allan i borth tŷ'r ARGLWYDD.

2 Cronicl 24