2 Cronicl 24:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am ddeugain mlynedd. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam.

2. Gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy gydol cyfnod Jehoiada'r offeiriad.

3. Dewisodd Jehoiada ddwy wraig iddo, a chafodd ganddynt feibion a merched.

4. Wedi hyn, rhoddodd Jehoas ei fryd ar adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD.

5. Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a dweud wrthynt, “Ewch ar frys trwy holl ddinasoedd Jwda i gasglu'r dreth flynyddol gan Israel gyfan, er mwyn atgyweirio tŷ eich Duw.” Ond ni frysiodd y Lefiaid.

2 Cronicl 24