5. Deuddeg ar hugain oed oedd Jehoram pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem.
6. Dilynodd lwybr brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab, gan mai merch Ahab oedd ei wraig, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
7. Eto, oherwydd y cyfamod a wnaeth â Dafydd, ni fynnai'r ARGLWYDD ddifetha tŷ Dafydd, am iddo addo rhoi lamp iddo ef a'i feibion am byth.
8. Yn ei gyfnod ef gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a gosod brenin arnynt eu hunain.
9. Croesodd Jehoram yno gyda'i gapteiniaid a'i holl gerbydau; cododd liw nos ac ymosod gyda'i gerbydwyr ar yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu.
10. Ac y mae Edom mewn gwrthryfel yn erbyn Jwda hyd y dydd hwn. Yr un pryd gwrthryfelodd Libna yn ei erbyn, am iddo droi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.
11. Ef hefyd a adeiladodd uchelfeydd ym mynydd-dir Jwda, a gwneud i drigolion Jerwsalem buteinio, ac arwain Jwda ar gyfeiliorn.
12. Daeth llythyr at Jehoram oddi wrth y proffwyd Elias yn dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Dafydd dy dad: ‘Ni ddilynaist ti lwybrau Jehosaffat dy dad ac Asa brenin Jwda,
13. ond dilynaist frenhinoedd Israel, a gwneud i Jwda a thrigolion Jerwsalem buteinio, fel y gwnaeth tŷ Ahab gydag Israel; yr wyt hefyd wedi lladd dy frodyr o dŷ dy dad, dynion gwell na thi.
14. Am hyn, fe ddaw'r ARGLWYDD â phla mawr ar dy bobl, dy feibion, dy wragedd a'th holl olud.
15. Fe fyddi di dy hun yn dioddef o glefyd enbyd yn dy goluddion, clefyd fydd ymhen amser yn gwneud i'r coluddion ddisgyn allan.’ ”