2 Cronicl 20:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Pan gyrhaeddodd Jwda wylfa ger yr anialwch, a throi i edrych ar y fintai, gwelsant gyrff y meirw ar y llawr ym mhobman; nid oedd neb wedi dianc.

25. Daeth Jehosaffat a'i filwyr i'w hysbeilio, a chawsant arnynt lawer o olud a gwisgoedd, ac eiddo gwerthfawr. Yr oedd ganddynt fwy o ysbail nag y gallent ei gario, ac am fod cymaint ohono buont am dridiau yn ei gludo.

26. Ar y pedwerydd dydd daethant ynghyd i ddyffryn Beracha; am iddynt fendithio'r ARGLWYDD yno, gelwir y lle yn ddyffryn Beracha hyd heddiw.

27. Yna dychwelodd holl filwyr Jwda a Jerwsalem dan arweiniad Jehosaffat i Jerwsalem mewn llawenydd, am i'r ARGLWYDD roi buddugoliaeth iddynt dros eu gelynion;

28. daethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem gyda nablau, telynau a thrwmpedau.

2 Cronicl 20