23. Trodd yr Ammoniaid a'r Moabiaid i ymosod ar drigolion Mynydd Seir, a'u difa'n llwyr; ac wedi iddynt eu difodi hwy aethant ymlaen i ddifetha'i gilydd.
24. Pan gyrhaeddodd Jwda wylfa ger yr anialwch, a throi i edrych ar y fintai, gwelsant gyrff y meirw ar y llawr ym mhobman; nid oedd neb wedi dianc.
25. Daeth Jehosaffat a'i filwyr i'w hysbeilio, a chawsant arnynt lawer o olud a gwisgoedd, ac eiddo gwerthfawr. Yr oedd ganddynt fwy o ysbail nag y gallent ei gario, ac am fod cymaint ohono buont am dridiau yn ei gludo.
26. Ar y pedwerydd dydd daethant ynghyd i ddyffryn Beracha; am iddynt fendithio'r ARGLWYDD yno, gelwir y lle yn ddyffryn Beracha hyd heddiw.
27. Yna dychwelodd holl filwyr Jwda a Jerwsalem dan arweiniad Jehosaffat i Jerwsalem mewn llawenydd, am i'r ARGLWYDD roi buddugoliaeth iddynt dros eu gelynion;
28. daethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem gyda nablau, telynau a thrwmpedau.
29. Daeth ofn Duw ar holl deyrnasoedd y gwledydd pan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel.
30. Felly cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch, a rhoddodd ei Dduw lonydd iddo oddi wrth bawb o'i amgylch.
31. Teyrnasodd Jehosaffat ar Jwda. Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba ferch Silhi oedd enw ei fam.
32. Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
33. Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac nid oedd y bobl eto wedi gosod eu bryd ar Dduw eu hynafiaid.
34. Y mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yng nghronicl Jehu fab Hanani, sydd wedi ei gynnwys yn Llyfr Brenhinoedd Israel.