2 Cronicl 20:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi hyn, dechreuodd y Moabiaid a'r Ammoniaid, gyda rhai o'r Meuniaid ryfela yn erbyn Jehosaffat.

2. Daeth rhywrai at Jehosaffat a dweud wrtho, “Y mae mintai fawr yn dod yn dy erbyn o Edom, o'r ochr draw i'r môr, ac y mae hi eisoes yn Hasason-tamar” (hynny yw, En-gedi).

3. Yn ei ddychryn penderfynodd Jehosaffat geisio'r ARGLWYDD, a chyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.

4. Yna ymgasglodd pobl Jwda i ofyn am gymorth gan yr ARGLWYDD; daethant o bob un o'u dinasoedd i'w geisio ef.

5. Yn y cynulliad hwn o bobl Jwda a Jerwsalem yn nhŷ yr ARGLWYDD, fe safodd Jehosaffat o flaen y cyntedd newydd,

2 Cronicl 20